Nodiadau o ddigwyddiad rhanddeiliaid Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 1 Mai 2019 - Themâu Allweddol

 

Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau a ganlyn:

Age Cymru, Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru, Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, y Gymdeithas Bysiau a Choetsys,  yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well, Adran Drwyddedu Cyngor Caerdydd, Cynghrair Cerbyd Hacni Caerdydd, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys, Anabledd Cymru, Dragon Taxis/Veezu, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, GMB, y Gymdeithas Cerbydau Hurio Preifat Trwyddedig, y Gwasanaeth Galw’r Gyrrwr yn y Drenewydd, y Comisiynydd Pobl Hŷn, Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro, Stagecoach, Sustrans, Gyrwyr Tacsi Caerdydd, Traveline Cymru, Partneriaeth TAS, Comisiwn y Gyfraith, Transport Focus, Uno'r Undeb, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Cynigion y Papur Gwyn ar gyfer Gwasanaethau Bysiau a Thocynnau Teithio Rhatach

 

·         Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys rhai syniadau defnyddiol, ond nid oedd y weledigaeth gyffredinol ynddo yn ddigon cryf, ac nid oedd y papur yn datrys y mater o daro cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau bws i greu elw a chyllido gwasanaeth o ansawdd da i bawb.

·         Ni fydd y cam o ddarparu offerynnau cyfreithiol i awdurdodau lleol yn fesur digonol ar gyfer datrys y problemau sy'n bodoli o ran y rhwydwaith trafnidiaeth.

·         Roedd consensws cyffredinol o blaid cyflwyno Partneriaethau Ansawdd Uwch. Gallai'r rhain fod yn bwysig mewn perthynas â defnyddio darparwyr cludiant cymunedol.

·         Y flaenoriaeth yw creu system drafnidiaeth sy'n canolbwyntio ar anghenion y teithiwr a phrofiad y cwsmer, gan gynnwys sicrhau bod gyrwyr yn canolbwyntio ar y cwsmer, a manteision wi-fi. Yn benodol, rhaid deall profiadau pobl ifanc a mynd i'r afael â'u pryderon. Mae angen corff annibynnol â llais cryf i gynrychioli teithwyr.

·         Mae mynd i'r afael â thagfeydd ar adegau prysur yn hanfodol, a rhaid i'r broses hon gynnwys darparu gwasanaethau gwell y tu allan i oriau brig, a hynny er mwyn atal pobl rhag defnyddio eu ceir fel yr unig opsiwn i deithio i'r gwaith.

·         Diffyg arbenigedd ymhlith awdurdodau lleol o ran ymdrin â'r masnachfreintiau bysiau.

·         Mae gwasanaethau wedi dioddef toriadau sylweddol ar lefel awdurdod lleol, ac mae diffyg cyllid yn fater sylfaenol nad yw'r cynigion yn mynd i'r afael ag ef. Gall gweithredwyr mwy ddewis darparu gwasanaethau ar lwybrau sy'n creu elw sylweddol, gan adael i weithredwyr llai wneud cais am y llwybrau sy'n creu'r elw lleiaf. Mae llawer o lwybrau'n cael eu colli—mae'r sefyllfa o ran diffyg cyllid wedi cael effaith ddramatig ar wasanaethau yng ngogledd Cymru—ac mae hyn wedi cael effaith ddifrifol ar deithwyr. Mae angen strategaeth fuddsoddi genedlaethol.

·         Rhaid cydnabod fel ffactor y gwahaniaethau sylweddol sy'n bodoli o ran cyflogau ac amodau gyrwyr bysiau a gyrwyr trenau, a rhwng gweithredwyr llai a mwy. Mae recriwtio a chadw staff yn broblem. Nid yw rhai llwybrau'n gweithredu o ganlyniad i brinder gyrwyr.

·         Roedd yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well o'r farn bod cynyddu'r oedran lle mae pobl yn gymwys i hawlio tocynnau teithio rhatach ar fysiau yn syniad da. Fodd bynnag, byddai angen cynnal asesiad effaith ynghylch y newid hwn.

·         Amserlenni - gall y broses o ddeddfu ar y materion hyn gymryd amser hir cyn cyrraedd y cyfnod gweithredu - mae ffordd bell i fynd.

·         Roedd siom mawr fod Cludiant Cymunedol wedi'i hepgor o'r cynigion. Mae trafnidiaeth gymunedol dda yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles, a hefyd o ran mynd i'r afael ag unigedd.

·         Mae'r terfyn oedran ar gyfer bysiau yn bryder i rai o'r cwmnïau sy'n gweithredu'r masnachfreintiau.

·         Mae'r cam o bwysoli ffactorau o fewn y model masnachfraint yn hanfodol. Pe rhoddir 80 y cant o'r pwysiad ar y pris, mae perygl y bydd hynny'n arwain at ras i'r gwaelod. Ni allwn fforddio gweld hynny'n digwydd yng Nghymru os ydym am gael gwasanaethau trafnidiaeth o ansawdd da.

 

Cynigion ar gyfer Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

 

·         Cytunwyd y dylid cael safonau cenedlaethol cyson - heb unrhyw hyblygrwydd - a chofrestr genedlaethol ar gyfer rhannu data.

·         Mae diogelu, a diogelwch gyrwyr, yn faterion pwysig. Unwaith eto, gellid cymhwyso safonau cenedlaethol/dull cydlynol i'r broses hon yng nghyd-destun trwyddedu, hyfforddi a chymhwyso mesurau diogelwch fel defnyddio teledu cylch cyfyng a thechnolegau eraill.

·         Mae'n anodd cael mynediad at dacsis sy'n hygyrch i bobl anabl y tu hwnt i Gaerdydd. Mae hygyrchedd yn fater allweddol, ond nid yw'n cael ei grybwyll yn y Papur Gwyn o gwbl. Codwyd y posibilrwydd o osod gofynion hygyrchedd ar weithredwyr cerbydau hurio preifat dros faint penodol.

·         Awgrymodd cynrychiolwyr awdurdodau lleol y dylai materion gorfodi barhau i fod yn faterion lleol, a hynny er mwyn manteisio ar wybodaeth leol.

·         Cafwyd trafodaeth ar lygredd ac effaith cyflwyno peiriannau Euro VI (peiriannau sydd â lefelau llygru is) ar yrwyr.

·         Mae gormod o dacsis yng Nghaerdydd, nid oes digon o le mewn gorsafoedd tacsi, ac mae gyrwyr yn ei chael hi'n anodd ennill yr isafswm cyflog. Mae gweithio trawsffiniol yn fater enfawr (gyrwyr o lefydd y tu hwnt i Gaerdydd yn gweithio yn y ddinas). A fyddai modd cymryd camau gorfodi er mwyn sicrhau bod yn rhaid i yrwyr o Gasnewydd, er enghraifft, ddechrau neu orffen pob taith yng Nghasnewydd? Mae'r ffioedd, safonau a phrofion gwahanol sy'n cael eu defnyddio gan awdurdodau trwyddedu gwahanol yn ffactor.

·         Rhaid deall materion gwledig a'u hadlewyrchu yn y broses o ddatblygu cynigion.  Er enghraifft, gall gweithio trawsffiniol fod yn hanfodol mewn ardaloedd gwledig yn sgil prinder gyrwyr.

·         Roedd Gyrwyr Tacsis Caerdydd am gapio nifer y gyrwyr sy'n gyrru cerbydau hurio preifat, fel sy'n bodoli yn ninas Glasgow.  Dywedodd llywodraeth leol fod deddfwriaeth yr Alban yn wahanol, ond nodwyd y gallai'r ddeddfwriaeth arfaethedig yng Nghymru fod yn gyfle i newid y sefyllfa honno. Nid oedd Uber yn cefnogi'r cam o gyflwyno cyfundrefn gapio. Awgrymodd y byddai'r cam hwn yn llesteirio datblygiadau tuag at greu “byd o gerbydau a rennir” a allai leihau perchnogaeth ceir preifat, gan arwain at fuddion.  Yn ogystal, heriodd Uber y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn ninas Glasgow. Er enghraifft, awgrymodd fod yr arolwg wedi canolbwyntio ar ardaloedd lle'r oedd cyflenwad da o gerbydau hurio preifat, ond ei fod heb ystyried y galw nad oedd yn cael ei ddiwallu. Nododd hefyd na fu cyfle i herio'r penderfyniad.

 

Cynigion yn y Papur Gwyn ar gyfer Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth

 

·         Nid oes digon o wybodaeth yn y Papur Gwyn i ddeall y rhesymeg dros gael cyd-awdurdodau trafnidiaeth mewn perthynas â thacsis/cerbydau hurio preifat a gwasanaethau bws. Mae angen llawer mwy o eglurder, yn benodol er mwyn deall manteision y cynigion.

·         Mewn perthynas â thacsis/cerbydau hurio preifat, pwysleisiodd rhai pa mor bwysig oedd sicrhau bod ffiniau awdurdodau lleol yn parhau. Gallai system genedlaethol arwain at fwy fyth o orgyflenwad mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd.  Mae angen llawer mwy o fanylion am y cynigion dan sylw.

·         Yn sgil diffyg manylion, gallai pobl symud yn ddiofyn tuag ag Opsiwn B, sef bod safonau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno ar gyfer tacsis/cerbydau hurio preifat ond bod cyfrifoldeb dros dacsis/cerbydau hurio preifat yn aros gydag awdurdodau lleol. Fodd bynnag, awgrymwyd y gellid cael 'Opsiwn C', sef cymysgedd o elfennau cenedlaethol a lleol, tra'n cadw ffiniau lleol. Awgrymodd Gyrwyr Tacsis Caerdydd y dylai'r cyd-awdurdodau trafnidiaeth fod yn gyrff gweinyddol yn unig—sef eu bod yn gyfrifol am reoli safonau, gorfodi a data ac ati—ond bod ffiniau lleol yn cael eu cadw.

·         Nid yw'r cynigion yn adlewyrchu'n ddigonol llais teithwyr bysiau a theithwyr rheilffyrdd. Mae'r cam o gael gwared ar gonsortia trafnidiaeth rhanbarthol a'r panel cynghori teithwyr fel fforwm ar gyfer lleisio barn yn peri pryder yn hynny o beth. Mae hefyd yn destun pryder fod trafnidiaeth gymunedol wedi'i hepgor o'r cynigion, er y byddai modd mynd i'r afael â nifer o'r amcanion sy'n ymddangos yn y Papur Gwyn drwy ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol.

·         Rhaid cael dealltwriaeth well o'r hyn sy'n atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen ymchwil yn ogystal â gwaith ymgysylltu â phobl nad ydynt yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid i'r cynigion adlewyrchu newid cymdeithasol o ran y modd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teithio.

·         Gofynnwyd y cwestiwn a ganlyn: a fydd angen cyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol arnom os bydd gennym safonau cenedlaethol cryf a gwybodaeth sy'n cael ei rhannu?

·         Mae perygl na fydd corff cenedlaethol o'r fath yn deall nac yn adlewyrchu materion lleol. Mae'n hanfodol bod gwybodaeth leol yn cael ei defnyddio ar lefel cyd-awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol, a rhaid i fusnesau chwarae rhan lawn yn y broses honno.

·         Rhaid i'r cyd-awdurdodau trafnidiaeth gydnabod hefyd fod materion gwledig yn wahanol i faterion trefol, a sicrhau bod rhywun yn cynrychioli anghenion ardaloedd gwledig yn benodol.

·         Mae'r pethau priodol y gellir eu gwneud ar lefel cyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol yn cynnwys:

o   Cynllunio a chydlynu gwasanaethau

o   Gwybodaeth amser real am deithwyr

o   Pennu a phlismona safonau cenedlaethol

o   Caffael seilwaith trafnidiaeth gwell: er enghraifft, arosfannau bysiau, cyrbiau uwch, ac ati

o   Tocynnau rhatach

o   Darparu data ar gyfer gweithredwyr a theithwyr, gan gynnwys data perfformiad

o   Tocynnau integredig a chydlynu teithio aml-foddol ar rwydwaith integredig

o   Cydlynu camau i gyflwyno moddau newydd i'r rhwydwaith, er enghraifft, cerbydau hunan-yrru

·         Mae diffyg eglurder ynghylch y bwrdd/corff a fydd yn goruchwylio'r cyd-awdurdodau trafnidiaeth ac ynghylch rôl a statws Trafnidiaeth Cymru ym model y cyd-awdurdodau trafnidiaeth. Hefyd, a fyddai'r cyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol a chenedlaethol yn llesteirio gwaith ei gilydd yn y pen draw?

·         Mae cynllunio defnydd tir, sy'n fater hanfodol, wedi'i hepgor o'r cynigion.

·         Mae rheilffyrdd rhanbarthol hefyd wedi'u hepgor. Er enghraifft, yn ne-ddwyrain Cymru, rhaid sicrhau bod Rheilffyrdd y Cymoedd yn rhan o weithio tuag at rwydwaith integredig. Oni ellir sicrhau dull cydlynol o deithio ar fysiau a threnau, nid oes unrhyw bwynt i'r cynigion.

·         Mae lefel yr arbenigedd technegol sydd gan y cyd-awdurdodau trafnidiaeth yn hanfodol. Byddai'n ddefnyddiol pe bai cwmnïau mwy sy'n gweithredu ar draws saith ardal awdurdod lleol ond yn gorfod ymdrin ag un person, ond rhaid sicrhau bod y person hwnnw'n addas ar gyfer y rôl.

·         Fel rhan o ddatblygu'r cynigion, rhaid ystyried cylch gwaith a rôl y Comisiynydd Traffig mewn perthynas â thrwyddedu.

 

---